Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Ddinbych, Teithio Consesiynol, Priffyrdd a Thrafnidiaeth, Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych LL16 3RJ
Sir y Fflint
Cyngor Sir y Fflint, Teithio Consesiynol, Yr Uned Gludiant, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF
Wrecsam
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Teithio Consesiynol, Cydlynu Trafnidiaeth, Adeiladau’r Goron, 31 Stryd Caer,
LL13 9BG
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam neu Ben-y-bont ar Ogwr yna mae gennych hawl i deithio ar y bws am hanner pris. Mae’ch cerdyn yn ddilys ar unrhyw siwrnai ar wasanaethau bws yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam neu Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n rhan o’r cynllun.
Y mae hefyd yn ddilys ar wasanaethau bws trawsffiniol ar yr amod bod eich siwrnai’n dechrau neu’n gorffen yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam neu Ben-y-bont ar Ogwr,e.e. o’r Wyddgrug i Gaer, o Wrecsam i’r Bermo ac o’r Rhyl i Landudno.
Mae’ch cerdyn yn ddilys o’r dyddiad y cewch chi o tan eich pen-blwydd yn 19 oed.
Dim ond chi gaiff ddefnyddio’ch cerdyn ac i gael eich gostyngiad, bydd angen i chi ei ddangos i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.
Cadwch eich cerdyn yn ddiogel oherwydd bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd os byddwch yn ei golli, ei ddifrodi neu os caiff ei ddwyn.
Wrth deithio â’r cerdyn bydd disgwyl i chi gadw at reolau a rheoliadau’r cwmni bws.
Yr awdurdod sy’n rhoi’r cerdyn i chi fydd yn berchen arno ac mae gan y Cyngor neu’r cwmni bws hawl ei dynnu oddi arnoch chi os na fyddwch yn ei defnyddio’n briodol.
Rhaid i chi ddangos eich cerdyn i’r gyrrwr bob tro y byddwch yn mynd ar y bws gan adael iddo weld eich ffotograff a’r dyddiad y daw’r cerdyn i ben.
Nac ydynt.
Os bydd angen cerdyn newydd arnoch chi, e.e. os bydd ar goll neu wedi’i ddwyn neu’i ddifrodi;
info@16218.org. Mae’n bosibl y bydd angen talu.
Mae Traveline Cymru yn rhoi gwybodaeth am amseroedd a siwrneiau pob gwasanaeth bws, coets, trên, fferi a gwasanaeth hedfan os ffoniwch 0871 200 22 33 , neu ewch i
www.traveline.org.uk neu anfonwch neges destun at 84268. Gall staff cyfeillgar a phrofiadol gael hyd i unrhyw leoliad ac arhosfan yng Nghymru a rhoi gwybodaeth i chi am drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau. Cewch wybodaeth hefyd am brisiau .
Cofiwch mai chi yw’r unig un sy’n cael defnyddio’r cerdyn. Os gadewch i rywun arall ei ddefnyddio mae’n bosibl y caiff ei gymryd oddi arnoch ac y byddwch yn wynebu achos cyfreithiol. Wrth deithio â cherdyn 16 2 18 nid oes gennych unrhyw hawliau gwahanol i hawliau teithwyr eraill, ac nid oes gennych chi fwy o hawl i gael eich cario nag unrhyw deithiwr arall. Ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros os bydd unrhyw gwmni bws yn methu rhedeg bws neu os bydd unrhyw gwmni yn gwrthod derbyn cerdyn 16 2 18 . Os bydd hyn yn digwydd, fodd bynnag, rhowch wybod i’r Linell Gymorth .
The Council can accept no liability for the failure of any bus service to operate or of any operator to accept a 16 2 18 card for travel. However, if this does happen, please inform the Helpline.
Os na fydd angen eich cerdyn arnoch yn y dyfodol e.e. os nad ydych am fanteisio rhagor ar deithio am hanner pris, ffoniwch y Linell gymorth neu anfonwch y cerdyn bws yn ôl at yr awdurdod priodol
Dywedwch wrth y Linell Gymorth os byddwch yn newid cyfeiriad.

Dywedwch wrth y Linell Gymorth os byddwch yn newid cyfeiriad.